dewi
New Member
Posts: 5
|
Post by dewi on Feb 12, 2009 19:57:59 GMT
Dwi wedi penodi aelod newydd o staff heddiw, a gan ei fod wedi bod ar y dol am gyfnod hir mae'r llywodraeth yn mynd i gyfrannu £75 yr wythnos at ei gyflog am chwe mis. Mae hyn yn help mawr i bontio'r gap rhwng yr incwm a ddaw o'r gwaith gall ein staff bychan ei wneud, a faint o waith y byddai ei angen i gadw aelod staff ychwanegol yn brysur. Heb y cyfraniad yma gan y wladwriaeth byddai'n anodd i warrantu fod y swydd yn un parhaol, ond mae hwn wedi bod o gymorth mawr i sicrhau fod y swydd yn gynaliadwy o'r diwrnod cyntaf.
Mae hefyd wedi golygu y gallai ddechrau'r aelod staff ar gyflog uwch.
Mi waries i oriau ar y ffon, efo pobl yn deud wrtha i nad oedd unrhyw gefnogaeth ar gael i mi gymryd staff ymlaen cyn taro ar y person cywir, felly dwi am rhoi'r rhif ffon defnyddiol ar y fforwm i chi fama. Efo'r pawb yn deud fod yr economi ar ei din, byddai'n gret medru creu hyd yn oed un swydd ychwanegol.
Os oes unrhywun ohonoch yn meddwl penodi, efallai y byddai'n syniad da i ffonio'r adran "vacancy support" ar 02920 4284690.
|
|